Prawf Cywirdeb Iaith Coleg Digidol Cymru
Beth ydy'r Prawf?
Mae'r prawf hwn yn profi cywirdeb iaith ar bapur. Nid yw'n asesu sgiliau cyfathrebu cyffredinol. Os byddwch yn llwyddo yn y prawf mae'n dangos eich bod yn ddigon cywir ar bapur i ymgymryd â swydd/dyletswyddau ar lefel benodol. Gallech, wrth gwrs, fod yn hollol anaddas am resymau eraill!
Pwy ddylai sefyll y Prawf?
Unrhyw Gymro Cymraeg sydd yn awyddus i weld a yw'n gywir ar bapur ac i wella'i sgiliau. Mae llawer hefyd yn sefyll y prawf o ran diddordeb personol. Does dim rhaid rhoi unrhyw fanylion personol ar y dechrau felly does dim byd i'w golli.
Os byddwch yn llwyddiannus (h.y. os byddwch yn sgorio 60%+) byddwch yn cael cynnig tystysgrif a bydd yr union sgôr yn ymddangos ar y dystysgrif honno. Beth bynnag sy'n digwydd bydd yn bosib i chi ofyn am gymorth tiwtor ar-lein a fydd yn gallu tynnu sylw at eich cryfderau a'ch gwendidau a rhoi cymorth i chi wella'ch sgiliau.
Gosod nod
Os ydych yn defnyddio'r Gymraeg yn eich gwaith bob dydd neu yn y gymuned dylech ystyried anelu'n uwch na'r lefel drothwy (60%). Dyma'r canllawiau:
- Lefel 1 (o leiaf 60%): Gwaith gweinyddol/ysgrifenyddol/dysgu lle mae arbenigwr yn y Gymraeg (nid y person sydd yn sefyll y prawf hwn) yn gyfrifol am gywiro'r gwaith
- Lefel 2 (o leiaf 65%): Gwaith gweinyddol/ysgrifenyddol mewnol nad yw'n cael ei weld gan y cyhoedd nac ychwaith gan unrhyw berson a allai ymateb yn negyddol i gamgymeriadau
- Lefel 3 (o leiaf 75%): Gwaith gweinyddol/ysgrifenyddol/proffesiynol a welir gan eraill gan gynnwys cydweithwyr ac aelodau unigol o'r cyhoedd ond nad yw'n debyg o gael ei ddarllen gan unrhyw berson a allai ymateb yn negyddol i gamgymeriadau
- Lefel 4 (o leiaf 85%): Gwaith gweinyddol/ysgrifenyddol/proffesiynol a welir gan grwpiau cyhoeddus penodol y mae'r awdur yn gyfarwydd â nhw ond nad yw'n debyg o gael ei ddarllen gan unrhyw berson a allai ymateb yn negyddol i gamgymeriadau
- Lefel 5 (o leiaf 93%): Gwaith arbenigol - Golygu, paratoi deunydd ar gyfer y Cyfryngau, paratoi deunydd ar gyfer plant/myfyrwyr, cyfieithu, cyflwyno gwaith academaidd.
Pwy fydd yn gweld fy nghanlyniadau?
Neb ond chi ar y dechrau. Mae'r gwasanaeth hwn yn un hollol gyfrinachol. Os byddwch yn gofyn am diwtor ar-lein bydd y tiwtor hwnnw, a fydd wedi arwyddo cytundeb cyfrinachedd, yn edrych ar eich sgôr ac ar eich cryfderau a gwendidau er mwyn llunio cwrs ar eich cyfer.
Oes rhaid cofrestru?
Nac oes! Wedi dweud hynny, os byddwch am gael tystysgrif bydd yn rhaid i chi ymaelodi â Choleg Digidol Cymru.
Oes rhaid talu ffi?
Nac oes. Cewch sefyll y prawf ac ennill tystysgrif heb dalu ffi. Os byddwch am dderbyn tystysgrif swyddogol (lliwgar) trwy'r post bydd angen talu £7.50. Mae'r rhain yn boblogaidd â phobl sydd yn cyflwyno ceisiadau am swyddi.